Ymholiadau Data

Ffurflen Ymholiadau a Rhyddhau Data

Lawrlwytho Ffurflen AderynCyn i ni ymdrin â’ch ymchwiliad data rydym yn gofyn i chi lenwi ffurflen syml. Mae’r ffurflen hon wedi’i theilwra i’r pecynnau chwilio a gynhaliwyd ar Aderyn, Cronfa Ddata Cofnodi Bioamrywiaeth a Gwybodaeth LERC Cymru.

Lawrlwytho FfurflenOs nad yw’ch cais yn cyd-fynd â’r opsiynau a ddarparwyd neu os hoffech wneud cais anfasnachol, defnyddiwch y ffurflen hon.

Drwy lenwi’r ffurflen hon, rydych yn rhoi’r wybodaeth y mae arnom ei hangen i ni i ddelio gyda’ch
ymholiad ac rydych yn cytuno i’n telerau a’n hamodau, a fydd yn rheoli’r defnydd o’r wybodaeth
y byddwn ni’n ei rhoi. Ein Ffioedd

Nid yw CGBGC yn berchen ar ei data ei hun ond mae ganddi awdurdod i reoli a dosbarthu’r wybodaeth er lles y cyhoedd. Hysbysiad Preifatrwydd Cwmni

Y Data Sydd Ar Gael

Rhywogaethau
Safleoedd
Cynefinoedd
Data Eraill

  • Rhywogaethau a Warchodir a Rhywogaethau Blaenoriaeth: Rhywogaethau dan warchodaeth gyfreithiol yn yr UE a’r DU, rhywogaethau Adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymraeg) 2016, rhywogaethau Blaenoriaeth CGB y DU
  • Rhywogaethau Eraill o Bryder Cadwriaethol: Rhywogaethau o Bryder Cadwriaethol CGB y DU, Rhywogaethau’r Llyfr Data Coch a Rhywogaethau Cenedlaethol Brin, Rhywogaethau Confensiwn Bonn
  • Rhywogaethau o Bwysigrwydd Lleol: Rhywogaethau lleol y CGB, rhywogaethau prin ac anfynych yn lleol (fel sydd wedi’i nodi gan arbenigwyr lleol)
  • Pob Rhywogaeth Eraill: yr holl gofnodion eraill a gedwir, gan gynnwys rhywogaethau cyffredin ac eang

  • Dynodiadau Statudol: Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, Gwarchodfa Biosffer, Gwarchodfa Natur Leol, Gwarchodfa Natur Forol, Gwarchodfa Natur Genedlaethol, Parc Cenedlaethol, Safle Ramsar, Ardal Cadwraeth Arbennig, Ardal Gwarchodaeth Arbennig, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
  • Dynodiadau Anstatudol: Gwarchodfa Ymddiriedolaeth Natur (nid oes unrhyw Safleoedd o Bwysigrwydd i Gadwraeth Natur yn rhanbarth CGBGC) Rhywogaeth: yr holl gofnodion a gedwir, gan gynnwys rhywogaethau cyffredin ac eang

  • Arolwg Cynefin Cam I (cynefinoedd lled-naturiol blaenoriaeth)
  • Arolwg Glaswelltir Cam II (Dosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol)
  • Arolwg Mawndir Cam II (Dosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol)
  • Arolwg Coetiroedd Cam II (Dosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol)
  • Rhestr Coetiroedd Hynafol (coetiroedd sydd wedi bod â gorchudd parhaus fel coetir ers canrifoedd) : Coetir Lled-Naturiol Hynafol, Planhigfa ar Safle Coetir Hynafol, Safle Coetir Hynafol Wedi’i Adfer, Safle Coetir Hynafol o gategori anhysbys
  • Cynefinoedd Blaenoriaeth PBC (fel y datblygwyd gan y Grwpiau Ecosystemau a Rhywogaethau Arbenigol)

  • Safleoedd Geoamrywiaeth Pwysig yn Rhanbarthol
  • Data Morol CNC

Map enghreifftiol yn dangos y cynefinoedd blaenoriaeth

Ceisiadau am Ddata

Adroddiadau chwilio penodol i ardal yw’r cynnyrch mwyaf cyffredin y gwneir cais amdano i’r Canolfannau Cofnodi Lleol, ond rydym hefyd yn gallu darparu gwybodaeth fwy cyffredinol ar gyfer y rhanbarth, yn ogystal ag arolygon desg manwl, cwbl bwrpasol. Mae ein hadroddiadau’n gallu cynnwys gwybodaeth am rywogaethau, safleoedd a chynefinoedd statudol ac anstatudol.

Mae Ein Ffioedd yn dibynnu ar natur eich busnes (masnachol neu ddielw), ac ar yr amser mae’n ei gymryd i roi sylw i’ch cais. Mae ein ffioedd yn is i bartneriaid cyllido tymor hir sydd wedi cyfrannu arian grant at sefydlu’r gwasanaeth. Byddwn yn ceisio sicrhau bod gwybodaeth gyffredinol am fioamrywiaeth ar gael yn rhydd i’r cyhoedd ac i ysgolion, drwy’r tudalennau ar y wefan hon yn bennaf.

Map enghreifftiol yn dangos y cynefinoedd blaenoriaeth

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth ac mae croeso i chi anfon unrhyw sylwadau atom. Os yw eich cais am wybodaeth am fioamrywiaeth yn rhan o arolwg proffesiynol, efallai yr hoffech ystyried rhannu’r data y byddwch yn eu casglu gyda ni.

Drwy wneud hyn, byddwch yn sicrhau bod y wybodaeth ar gael i eraill ei defnyddio, ac yn cyfrannu at y wybodaeth gyffredinol am fioamrywiaeth.

Nodweddion Sensitif

Data ecolegol wedi’i eithrio rhag rhyddhau cyffredinol

Mae rhywfaint o’r wybodaeth sydd gennym yn cael ei hystyried yn ddata sydd wedi’i heithrio rhag cael ei rhyddhau’n gyffredinol gan Cyfoeth Naturiol Cymru gan ei bod yn ymwneud â lleoliadau penodol, er enghraifft, safleoedd bridio. Mae CNC yn cyhoeddi rhestr o ddata ecolegol sydd wedi’i eithrio rhag cael ei ryddhau’n gyffredinol a chanllawiau ar sut y dylid rheoli’r cofnodion hyn.